Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 10
Mawrth 2020
Amser y
cyfarfod: 13.00
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(0 munud)
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(0 munud)
(45 munud)
NDM7292 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Chwefror 2020.
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad
NDM7293 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Chwefror 2020.
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad
(30 munud)
NDM7291 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2020-21 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2020.
(60 munud)
NDM7290 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd economaidd a chymdeithasol Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i Gymru.
2. Yn croesawu’r ffaith bod Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd bellach yn gyfrifol am weithredu cyfleuster terfynfa Maes Awyr Ynys Môn ac yn cydnabod y cyswllt awyr rhanbarthol pwysig rhwng gogledd a de Cymru.
3. Yn cydnabod bod dros 1700 o bobl yn cael eu cyflogi ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a’r £250m o werth ychwanegol gros y mae’n ei gyfrannu at economi Cymru.
4. Yn cytuno ei bod yn allweddol cefnogi Maes Awyr Caerdydd er budd economi fasnach Cymru ar ôl Brexit, a hynny fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus carbon isel, integredig ac o’r radd flaenaf yng Nghymru.
5. Yn nodi dull Llywodraeth y DU o ymyrryd er mwyn achub cwmni Flybe ond yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd gam ymhellach er mwyn gwella cystadleurwydd, drwy gefnogi cost rheoleiddio ym meysydd awyr llai y DU, fel sy’n digwydd ar draws Ewrop.
6. Yn galw ar Lywodraeth newydd y DU i gytuno o’r diwedd i ddatganoli’n llawn y Doll Teithwyr Awyr i Gymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r newyddion bod Flybe wedi galw'r gweinyddwyr ac yn mynegi pryder ynghylch yr effaith andwyol bosibl a gaiff hyn ar ddyfodol Maes Awyr Caerdydd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth gynhwysfawr ar gyfer Maes Awyr Caerdydd gyda'r nod o'i dychwelyd i'r sector masnachol ar y cyfle cyntaf ac ar elw i drethdalwyr Cymru, ac y dylai'r strategaeth gynnwys cynlluniau i:
a) buddsoddi yn seilwaith cyfalaf y maes awyr er mwyn galluogi'r maes awyr i arallgyfeirio a chynhyrchu ffynonellau refeniw newydd;
b) cefnogi'r broses o ddatblygu llwybrau, gan flaenoriaethu cyswllt hedfan uniongyrchol ag UDA ac un i Fanceinion o ystyried ei statws fel prif ganolfan yng ngogledd Lloegr sy'n gwasanaethu gogledd Cymru;
c) datblygu strategaeth farchnata newydd ar gyfer y maes awyr;
d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatganoli a dileu'r doll teithwyr awyr;
e) gwella cysylltiadau trafnidiaeth i'r maes awyr er mwyn gwneud y maes awyr yn fwy hygyrch drwy fuddsoddi mewn cysylltiadau gwell o ran ffyrdd, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Gwelliant 2 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig;
Yn edrych ar Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i wneud elw blynyddol o leiaf ar y lefel weithredu, h.y. cyn costau cyllid.
Gwelliant 3 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod partner sector preifat i helpu i weithredu Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a chymryd cyfran leiafrifol ynddo o fewn 5 mlynedd.
(300 munud)
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd – cynllunio’r gweithlu a lefelau staffio priodol
21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34
2. Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd – ystyr ‘ansawdd’
60, 61, 62, 63, 64, 65, 66, 67, 68, 69, 70, 71
3. Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd – pŵer i ddyroddi canllawiau
16, 17, 18
4. Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd – diffyg cydymffurfio
35
5. Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd – data
38
6. Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd – cofrestr o reolwyr
72
7. Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd - adolygu datganiad o safonau
36, 37
8. Dyletswydd gonestrwydd – diffyg cydymffurfio
39, 73, 74
9. Corff Llais y Dinesydd – aelodau
5, 48, 6, 7, 8, 49, 9, 50, 51, 52, 10, 53, 11, 12, 54, 56, 14
10. Corff Llais y Dinesydd – sicrwydd indemniad ar gyfer gwirfoddolwyr a staff
55
11. Corff Llais y Dinesydd – adnoddau
57, 58
12. Corff Llais y Dinesydd - archwilio
13
13. Corff Llais y Dinesydd – strwythurau ac ymgysylltu
40, 19, 59, 75, 20
14. Corff Llais y Dinesydd – sylwadau i gyrff cyhoeddus
41, 76, 1, 42, 77
15. Cwynion ar y Cyd
43, 47
16. Corff Llais y Dinesydd - dyletswydd i gyflenwi gwybodaeth
2
17. Corff Llais y Dinesydd – Mynediad i fangre
3, 45
18. Corff Llais y Dinesydd – dyletswydd i gydweithredu
4, 46
19. Corff Llais y Dinesydd – cymorth i wirfoddolwyr a staff
44
20. Corff Llais y Dinesydd – cymhwyso safonau’r Gymraeg
15
Dogfennau Ategol
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu)
(Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli
Grwpio Gwelliannau
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 11 Mawrth 2020